Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Health and Social Care Committee
|
|
Lesley Griffiths AC Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
|
|
1 Mehefin 2012 |
Annwyl Lesley
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: craffu ariannol
Fel y gwyddoch, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gyfrifol am archwilio gwariant, gweinyddiaeth a pholisi’r Llywodraeth a’i chyrff cyhoeddus cysylltiedig.
Ym mis Hydref 2011, gwnaethom ystyried cyllideb ddrafft y Llywodraeth ar gyfer 2012-13. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cytunodd y Pwyllgor ei fod am gynyddu ei weithgarwch craffu ariannol yn ystod y Cynulliad hwn. Fel y gwyddoch, mae rhywfaint o waith craffu ariannol eisoes wedi mynd rhagddo yn ein sesiynau craffu cyffredinol gyda chi a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ein nod yw parhau â’r gwaith hwn fel rhan o’n rhaglen craffu ar bolisi, deddfwriaeth a chyllideb yn y dyfodol.
Er mwyn llywio ein trafodaethau ar faterion ariannol yn well yn y dyfodol, byddai’n ddefnyddiol pe gallai Llywodraeth Cymru rannu rhywfaint o wybodaeth ariannol ychwanegol â’r Pwyllgor. Er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor yn parhau i gael dealltwriaeth ddigonol o sefyllfa ariannol y GIG yng Nghymru, sy’n ddisgwyliedig ohonom, byddai’n ddefnyddiol cael gwybod:
· pa drefniadau sydd gan Lywodraeth Cymru yn eu lle ar gyfer monitro sefyllfa ariannol byrddau iechyd Cymru yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys gwybodaeth am eu perfformiad yn erbyn eu cynlluniau ariannol a thargedau arbed; ac
· a fyddech yn fodlon rhannu’r wybodaeth honno â’r Pwyllgor yn rheolaidd.
Credwn y bydd y wybodaeth hon yn helpu i sicrhau bod ein hystyriaethau yn wybodus a chywir.
Er gwybodaeth, rwyf hefyd wedi ysgrifennu at bob Bwrdd Iechyd Lleol heddiw i ofyn am wybodaeth i helpu fel sail i’n gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn. Rwyf wedi atodi copi o’r llythyr hwn er gwybodaeth.
Yn gywir
Mark Drakeford AC
Cadeirydd